Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 4
Rhagfyr 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar ôl Cwestiwn 2.
(120 munud)
NDM6889 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU, ond yn siomedig nad yw Cymru na’r Alban yn cael eu crybwyll yn unrhyw un o’r dogfennau.
2. Yn nodi’n benodol y trefniadau ar gyfer diogelu hawliau dinasyddion ac ar gyfer cyfnod pontio y mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson drosto ac a fyddai’n osgoi’r canlyniad trychinebus lle na cheir cytundeb ym mis Mawrth 2019.
3. Yn nodi y bydd gan y Cynulliad gyfle arall i drafod y Cytundeb Ymadael wrth iddo ystyried a fydd yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol ai peidio i Fil y Cytundeb Ymadael y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno.
4. Yn credu nad yw’r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y Datganiad Gwleidyddol yn bodloni’r model ar gyfer y berthynas rhwng y DU / EU yn y dyfodol a nodir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sydd wedi cael ei gefnogi’n gyson gan y Cynulliad ac nad yw’n rhoi sicrwydd cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol a deddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb yn y dyfodol.
5. Yn nodi bod llinellau coch Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar gwmpas y cytundeb dros dro y cytunwyd arno â’r UE ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio’n hytrach ar ddiogelu perthynas hirdymor sy’n darparu fel bod modd cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, gan geisio ymestyn Erthygl 50 os bydd angen.
6. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno aros.
Y Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol (Saesneg
yn unig)
Diogelu
Dyfodol Cymru
Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl wedi pleidleisio drwy fwyafrif ar 23 Mehefin 2016 heb unrhyw amwysedd, neu gyfyngiad, i adael yr UE, ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru anrhydeddu ysbryd a llythyren y penderfyniad hwnnw.
2. Yn credu bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhwystro dymuniadau y 17.4 miliwn o bobl a bleidleisiodd i ymadael.
3. Yn credu bod cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn ildiad, sy'n negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn undeb tollau'r UE am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r UE.
4. Yn galw ar y DU a Llywodraeth Cymru i gofleidio adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r UE a'r cyfleoedd byd-eang i fasnachu â gweddill y byd.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwyntiau 1-5 a rhoi yn eu lle:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gwrthod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.
Yn credu nad yw'r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dinasyddion.
Yn nodi bod dadansoddiad economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r DU yn gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r datganiad gwleidyddol presennol.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau.
Yn galw am estyniad i’r broses ar gyfer erthygl 50.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn galw am bleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys opsiwn i'r DU barhau i fod yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
NDM6888 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 06 Tachwedd 2018.
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig
NDM6885 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig
NDM6884 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig
NDM6886 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig
NDM6887 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 06 Tachwedd 2018.
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig
(90 munud)
NDM6883 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 2 a 23 Hydref 2018.
Dogfennau Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
- Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon
Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn diwallu anghenion pobl Cymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 5 Rhagfyr 2018